Grŵp ffocws ar-lein – Ymchwiliad Senedd Cymru ar ofal plant yng Nghymru -Dydd Mawrth, 20fed Chwefror rhwng 12:15 – 1:15pm
Ydych chi’n rhiant sengl sy’n byw yng Nghymru a hoffai rannu eu profiadau gyda’r Senedd a helpu i lunio polisi?
Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Senedd Cymru yn cynnwys chwe Aelod o’r Senedd o wahanol bleidiau gwleidyddol, sy’n cynrychioli gwahanol rannau o Gymru. Ei rôl yw edrych ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn addas i’r diben ar gyfer pobl Cymru.
Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad dilynol i ofal plant yng Nghymru. Bydd y Pwyllgor yn edrych ar feysydd gan gynnwys i ba raddau y mae darpariaeth gofal plan yng Nghymru yn cynnig darpariaeth o ansawdd uchel sy’n cefnogi datblygiad plant, yn mynd i’r afael â thlodi plant ac yn cefnogi cyflogaeth rieni, a pha newidiadau y gallai fod eu hangen i gyflawni’r canlyniadau hyn.
Cyhoeddodd adroddiad ar y pwnc hwn ym mis Ionawr 2022, a chan fod dwy flynedd wedi mynd heibio bellach, mae’n awyddus i wybod am y cynnydd a wnaed a beth arall sydd angen ei wneud. Mae cyfres o grwpiau ffocws ar-lein gyda rhieni o bob cwr o Gymru yn cael eu trefnu i ddylanwadu ar y gwaith hwn, a hoffai’r Pwyllgor gynnwys lleisiau’r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o ofal plant, neu sy’n dymuno cael gofal plant.
Bydd grŵp ffocws gyda rhieni sengl yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 20 Chwefror rhwng 12.15 a 1.15pm.
Beth yw’r heriau presennol gyda gofal plant yng Nghymru? Beth arall sydd angen ei wneud? Mae eich llais yn bwysig a gall helpu i ddylanwadu ar newid. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â rhys.jones@senedd.cymru.